Asiantaeth ddigidol yng Nghaerdydd yw Pobl Tech. Rydym yn dylunio ac yn datblygu gwefannau ymatebol, gwe-apiau ac apiau
DechrauAsiantaeth ddigidol yng Nghaerdydd yw Pobl Tech sy'n arbenigo mewn dylunio ac adeiladu gwefannau pwrpasol. P'un a oes angen safle dwy dudalen, siop e-fasnach neu system e-fasnach arnoch chi, ni yw'r asiantaeth i chi.
Ein gwasanaethauRydym yn dylunio ac yn datblygu gwefannau pwrpasol, sydd nid yn unig yn edrych yn wych ond yn gweithio'n galed i'ch busnes. Rydym bob amser yn dylunio ein gwefannau i fod yn ymatebol, gan addasu i unrhyw faint sgrin fel eu bod yr un mor ddefnyddiadwy ar ffôn ag y maent ar liniadur.
Rydym yn dylunio ac yn datblygu gwefannau pwrpasol sydd nid yn unig yn edrych yn wych ond yn gweithio'n galed i'ch busnes. Rydym bob amser yn dylunio ein gwefannau i fod yn ymatebol, gan addasu i unrhyw faint sgrin fel eu bod yr un mor effeithiol ar ffôn ag y maent ar liniadur.
Rydym yn adeiladu apiau ac offer pwrpasol ar y we. O systemau archebu a siopau e-fasnach i feddalwedd rheoli a systemau monitro. Os oes gennych syniad am raglen neu blatfform byddem wrth ein bodd yn helpu.
Ein nod yw deall eich sefydliad yn llawn a'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni.
Rydym yn credu mewn gweithio gyda'r dylunio yn awain, gan gynnig symlrwydd a hygyrchedd wrth galon y gwaith.
Gellir adeiladu ein holl atebion yn bwrpasol, gan roi'r rhyddid i chi ddatblygu nodweddion arloesol ac effeithiol.
Rydym yn cynnig cefnogaeth a monitro parhaus ar ôl i brosiect fynd yn fyw.
Gellwn adeiladu ein holl atebion yn gwbl amlieithog, a gallant fod yn unol â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg.
Rydym yn dylunio ein datrysiadau gyda hygyrchedd wrth graidd y gwaith, gan sicrhau eu bod yn gweithio yn effeithiol i bob defnyddiwr.
Mae ein datrysiadau'n gweithio'n effeithiol ar draws ystod o ddyfeisiau, o gyfrifiaduron i ffonau symudol.
Gyda'n holl brosiectau, rydym yn cadw at yr egwyddorion GDPR.
Llawr cyntaf, Maple House
Greenwood Close, Cardiff Gate Business Park
Caerdydd, CF23 8RD